Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol
Dydd Mawrth 13/01/2015
Ystafell Giniawa 3, Tŷ
Hywel
Caerdydd CF99 1NA
12.30 – 13.15
Aelodau'r Cynulliad yn bresennol
Mick Antoniw
John Griffiths
Yr Ysgrifenyddiaeth
Alex Bird (Cadeirydd, Co-operatives and Mutuals Wales)
Arsylwi
Jayne Howard
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) agorodd y cyfarfod am 12.30.
Ail-benodwyd aelodau'r grŵp, Mick Antoniw AC, Mark Isherwood AC, William Powell AC a Simon Thomas AC, ar gyfer y flwyddyn 2014-15.
Ail-benodwyd Mick Antoniw AC yn Gadeirydd y grŵp.
Ail-benodwyd Alex Bird o Co-operatives and Mutuals Wales yn ysgrifenyddiaeth ar gyfer y flwyddyn 2014-15.
Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon a'u cymeradwyo.
Cafwyd trafodaeth ar gyfarfodydd posibl o'r grŵp yn y dyfodol.
Awgrymwyd y pynciau isod. Cawsant eu blaenoriaethu fel a ganlyn:-
1. Cymdeithasau rhandiroedd – siaradwr o'r National Society of Allotment and Leisure Gardeners
2. Cwmnïau cydweithredol ynni gwyrdd yn gweithio gyda'r Llywodraeth - David Saunders, Cadeirydd Bristol Power Co-operative, a Bill Edrich, Cyfarwyddwr Ynni Masnachol, Cyngor Dinas Bryste
3. Perchnogaeth gymunedol a throsglwyddo asedau - Robin Andrew (Pennaeth Gwasanaeth Cynorthwyol, Lleoliaeth a Datganoli, Cyngor Cernyw)
Gofynnwyd i Alex Bird geisio trefnu sesiynau gyda'r siaradwyr uchod.
Cytunwyd ar y dyddiadau a ganlyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol:-
· 24 Chwefror, Ystafell y Cyfryngau, 12.30
· 19 Mawrth, Ystafell y Cyfryngau, 12.30
Nodwyd bod cyfarfod ar y cyd eisoes wedi'i drefnu â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai:-
· 28 Ionawr, Ystafell Gynadledda 21, 12.00. Cwmnïau cydweithredol tai yng Nghymru - David Palmer, Canolfan Cydweithredol Cymru - cyfarfod ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dai.
Gan nad oedd unrhyw fater arall, daeth y cyfarfod i ben am 13.15.